Clwb Powysland : Cymdeithas Hanes Sir Drefaldwyn
Sefydlwyd Clwb Powysland uwch gymdeithas sirol hanesyddol ym 1867.
Croeso i wefan Clwb Powysland. Gobeithiwn y byddwch yn darganfod llu o bethau diddorol, boed ydych yn byw yn Sir Drefaldwyn, yng Nghymru neu yng ngorwelion pen draw’r byd. Efallai bod gennych ddiddordeb neu angen mwy o wybodaeth am cysylltiadau teulol â’r sir. Os dyma’r achos rydych wedi cyraedd y safle wê iawn!
Sefydlwyd cymdeithas hanesyddol Clwb Powysland er budd Sir Drefaldwyn ym 1867. Hyd yn hyn mae tua 400 aelod yn perthyn i’r gymdeithas, yn ogystal â nifer o danysgrifwyr sefydliadol. Cefnogai’r clwb rhaglen diddorol o ddarlithoedd cyhoeddus a gwibdeithiau ar ben cyhoeddi newyddiadur ei hun a chynnal llyfrgell yn Y Trallwm. Cyfraniad sylweddol y Clwb i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 ym Meifod oedd pafiliwn Y Lle Hanes, oedd yn arddangos gwaith pedwar ar hugain o grwpiau hanes lleol. Ymwelodd tua 7,000 o bobol â’r Lle Hanes yn ystod yr wythnos.
Lleolir pencadlys y Clwb yn Y Trallwm ond mae gwaith y Clwb yn ymestyn o Lanrhaeadr ym Mochnant a Llansilin yn y gogledd i’r Drenewydd a Llanidloes yn y de ac i Fachynlleth yn y gorllewin. Yn dilyn ôl troed ei gyndeidiau, Iarll Powis yw llywydd y Clwb. Ein swyddogion alloweddol yw’r Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd.
Croesawir unrhyw ymholiad parthed hanes, archaeoleg y sir yn ogystal a’i phobol.